Maenaddwyn

Morrisiaid Môn

Mae’r enw Morrisiaid Môn yn chwedlonol yn hanes a llenyddiaeth Cymru. Y brodyr oedd Lewis, Richard, William a John. Ganwyd Lewis (1701-1765) yn Nhyddyn Melys, ond yn y Fferam y ganwyd Richard (1703-1779), William (1705-1763) a John (1706-1740).

G^wr llengar oedd Lewis a ysgrifennai farddoniaeth a rhyddiaith, ac a sefydlodd wasg argraffu ei hun. Aeth Richard i Lundain, lle bu’n golygu’r Beibl a chyhoeddi Llyfr Gweddi, ac ef a sefydlodd gymdeithas Cymmrodorion Llundain. Daeth William yn swyddog y dollfa yng Nghaergybi, a byddai’n ymchwilio ac yn ysgrifennu am fotaneg. Aeth John i’r môr a daeth yn swyddog y llynges, ond bu farw ar fwrdd llong rhyfel ac yntau’n ddim ond 34 oed.

Bu’r Morrisiaid yn noddwyr mawr i’r bardd Goronwy Owen o Rosfawr a gadawodd y brodyr lu o lythyrau a rydd olwg werthfawr ar fywyd cymdeithasol y 18g.

William Jones

Ganed William Jones (1675-1749), y mathemategydd, yn y Merddyn, ger Tyddyn Melys. Mynychodd Ysgol Llanfechell cyn mynd i Lundain, lle bu’n gyfrifydd i fasnachwr cyn dod yn athro Mathemateg. Mae’i waith yn fyd-enwog, wedi cyhoeddi ei New Compendium of the Whole Art of Navigation (1702), ac yn fwyaf arbennig, am iddo ddefnyddio’r arwydd     i olygu ‘perifferi’ am y tro cyntaf er mwyn dynodi cymhareb diamedr cylch. Yn wir, daeth William mor enwog fel ei fod wedi dod i sylw pobl fel Edmund Halley a Syr Isaac Newton. O dipyn i beth, daeth yn aelod o’r Gymdeithas Frenhinol fel F.R.S. yn 1712, ac yna’n is-lywydd ar y Gymdeithas.

Trychineb Ail Ryfel Byd

Ar 21ain Gorffennaf 1941, syrthiodd yr awyren Defiant Mk1 ychydig gannoedd o fetrau oddi wrth ffermdy o’r enw’r Fferam. Roedd yr awyren yn perthyn i Sgwadron 456 Awyrlu Brenhinol Awstralia, a oedd ymysg y cyntaf i ddefnyddio RAF Fali. Lladdwyd y peilot, Sarsiant A. F. Brooks, yn y ddamwain, ac fe’i claddwyd yng Nghaergybi. Roedd nifer o faciwîs yn aros yn y Fferam a gwelsant y Defiant yn cylchu’r awyr. Cyn iddi daro’r llawr, dywedid bod y Sarsiant Brooks yn chwifio hances wrth iddo basio ychydig droedfeddi uwchben y ffermdy cyn glanio mewn cae. Aeth yr awyren ar dân a cheisiodd rhai o’r ffermwyr lleol achub y Sarsiant Brooks, ond roedd y gwres a’r ffrwydron rhyfel yn clecian yn ormod o rwystr.

Llyn yr Wyth Eidion

Flynyddoedd maith yn ôl, medden nhw, yr oedd gwas Nant Uchaf yn aredig Cors Cefn Du, rhan o Gors Erddreiniog, gydag aradr bren ac wyth eidion. Yr oedd yn anodd tynnu’r gwˆydd pren drwy’r gors a bu i’r gwas felltithio’r eidion a’u curo’n ddidrugaredd gyda phastwn. Gwylltiodd yr eidion a rhedeg i’r llyn gan lusgo’r aradr a’r gwas i’w canlyn. Dyna’r olaf a welodd neb o’r gwas a’r wyth eidion.