Llandyfrydog

Eglwys Llandyfrydog

Wedi’i fframio gan fynwent gron a choed, saif Eglwys Sant Tyfrydog mewn man tawel yn Ynys Môn. Fe’i sefydlwyd yn y 5g. ac mae cofnodion yn tystio i fodolaeth eglwys yma cyn gynhared ag 1098. Yn ôl un stori leol, cadwai iarll o’r Amwythig, Huw’r Balch, ei gˆwn yn yr eglwys a chanlyniad hynny oedd iddynt wallgofi ac i Huw farw yn fuan wedyn. Mae cofnod o’r eglwys hon, ynghyd ag eglwysi Caergybi a Llaneilian, yn Nhrethiad Norwich (1254), sy’n awgrymu ei bod unwaith yn eglwys gyfoethog a phwysig. Gwelir olion eglwys gynharach y tu allan i’r adeilad; mae’n bosibl fod gwaelod y deial haul, sy’n dyddio o’r 18ga., yn rhan o hen golofn croes, a gwelir olion waliau cerrig a drysau yn y gogledd. Dywedid hefyd fod y fedyddfaen yn y cyntedd yn dyddio o’r Oesoedd Canol.

Ffynnon Clorach a’r Seintiau

Roedd Seiriol Wyn a Chybi Felyn yn ddau sant o’r chweched ganrif, ac yn ôl traddodiad, byddai’r ddau’n cyfarfod yn gyson wrth ddwy ffynnon nid nepell o ffrwd a redai’n agos at y fan hon. Pan fyddai Cybi’n teithio o Gaergybi i’r fan hon ac yn ôl, byddai wastad â’i wyneb at yr haul, ac felly, am iddo ddal lliw haul, fe’i galwyd yn Cybi Felyn; ar y llaw arall, byddai Seiriol yn teithio o Benmon ac yn dychwelyd â’i gefn at yr haul, ac am ei fod yn welw, fe’i galwyd yn Seiriol Wyn. Dywedid bod y seintiau’n golchi eu traed yn nˆwr nant gyfagos.

Llanwyd ffynnon Cybi pan grëwyd lôn newydd yn 1840, ond gellir dal i weld ffynnon Seiriol o dan orchudd concrid i’r de o’r bont. Dywedid bod Cybi hefyd yn gyfaill i Eilian (Eglwys Llaneilian yng ngogledd Ynys Môn) a byddent yn cyfarfod ger

Llandyfrydog.

Chwedlau Llandyfrydog

Merch Ifan Gruffydd

Un noson, flynnyddoedd maith yn ôl, gofynnodd y ffermwr lleol Ifan Gruffydd i’w ferch roi’r fuwch yn y beudy, ond nid oedd golwg ohoni’n unman. Wrth edrych am y fuwch yng Nghae Lleidr Dyfrydog, gwelsant dylwyth teg yn dawnsio nes swyno Gwen. Camodd hithau i’w cylch a diflannu. Dychrynodd ei thad, ac ar gyngor gˆwr doeth o Faenaddwyn, aeth pedwar o wˆyr cryfaf yr ardal gyda rhaff i’r lle y diflannodd Gwen y nos Nadolig ddilynol. Clymwyd y rhaff am ganol Ifan, a phan ymddangosodd cylch y tylwyth teg, â Gwen yn dawnsio yn eu plith, neidiodd Ifan amdani a thynnodd y pedwar arall y rhaff. Daeth Ifan â’i ferch yn rhydd, a diflannodd y tylwyth teg.

Carreg Leidr Dyfrydog

Amser maith yn ôl, fe ddwynodd dyn lleol, Wil Llaw Flewog, feibl a llestri arian y cymun o Eglwys Llandyfrydog. Wrth iddo ddianc dros gaeau ger Clorach, cyfarfu ag ysbryd mewn goˆwn. Cyn gynted ag y gofynnodd Wil, mewn mawr ddychryn, pwy oedd yr ysbryd hwn, estynnodd yr ysbryd ei law allan a thrôdd Wil yn garreg yn syth, lle gellir ei weld hyd heddiw.

Afon Goch

Cyfuniad o nifer o ffynonellau dˆwr yw Afon Goch, un o ffynhonnau sanctaidd hynafol Sant Cybi yng Nghlorach, lle dywedir bod Sant Cybi a Sant Seiriol wedi cyfarfod yn rheolaidd yn y 6ed ganrif. Mae ffynhonnell arall o bwys yn codi o Fynydd Parys lle’r oedd y mwyngloddiau copr mwyaf yn y byd hysbys ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir eu cydlifiad ym Melin Esgob, sef un o 4 melin mewn bron i 2 filltir ar yr afon fach hon. Daeth enw’r afon goch o lygredd ocsid haearn a chopr o’r mwynglawdd yng nghanol a diwedd y 18fed ganrif. O ganlyniad i’r gwenyndra hwn, nid oes unrhyw fywyd yn yr afon.

Yn 2002, nododd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch drychineb bosibl yn y gloddfa, pan ddarganfu 278,000 metr ciwbig o ddˆwr  gwenwynig a allai fod wedi cael ei ollwng i lawr yr afon i dref Amlwch petai argae tanddaear gwan wedi methu. Ariannodd Cyngor Sir Ynys Môn brosiect i ryddhau’r dˆwr yn ddiogel drwy ei bwmpio o’r mynydd ac yna cafwyd gwared ar yr argae. O ganlyniad, mae Afon Goch yn awr fel yr oedd yn yr 17eg ganrif pan gafodd ei henwi yn Afon Dulas – hafan lân ar gyfer bywyd gwyllt fel brithyll, glas y dorlan, y crëyr a dyfrgwn.