Llannerchymedd

Chwedlau Llan
Cynllwyn Marian
Cred yr hanesydd Graham Phillips mai lleoliad claddu’r Forwyn Fair oedd Eglwys y Santes Fair yn Llannerch-y-medd, er bod llawer yn amau hynny. Cred fod esgyrn y Forwyn Fair wedi eu symud o’r eglwys a’u claddu gerllaw ffynnon sanctaidd rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr. Yn wir, ceir carreg fedd yn Oriel Ynys Môn, yr honnir mai un y Forwyn Fair ydyw.

Telynorion Llannerchymedd
Er nad yw bellach yn dafarn, mae arwydd boglynnog y Britannia Inn i’w weld o hyd ar sgwâr Llannerchymedd. Yn mynd yn aml i’r dafarn yma oedd tri brawd a oedd yn cael eu galw’n ‘Delynor Seiriol ’, ‘Telynor Gwalia’ a’r ‘Telynor Cymreig’. Roedd ‘Telynor Seiriol’, sef Owen Jones (1860-1907), yn delynor o fri, wedi astudio yn y Guildhall yn Llundain. Cafodd ei benodi’n Delynor Swyddogol i’r Ffiwsilwyr Cymreig, a bu’n chwarae’r delyn i’r teulu Brenhinol (anrhydedd a rannai gyda’i frawd John Thomas). Ar ôl ei farwolaeth, claddwyd ef ym mynwent Eglwys Llannerchymedd, dim ond pellter byr o ble y cychwynnodd ei yrfa.

Ffair Llan
Ffair amaethyddol fawr yn Llannerch-y-medd oedd Ffair y Llan a ddenai werthwyr a phrynwyr o bob rhan o Ynys Môn, yn borthmyn gwartheg a phrynwyr ceffylau.
Roedd ei lleoliad yng nghanol Ynys Môn yn hollbwysig i’w thwf, gan fod y pentref o fewn ffiniau pedwar cwmwd Ynys Môn: Talybolion, Twrcelyn, Llifon a Menai. Cyfeirir at y Ffair mewn cofnodion o’r 14g., ac erbyn 1683, cynhelid chwe ffair y flwyddyn yno; dwy ohonynt yn ffeiriau ceffylau. O 1658 neu cyn hynny, cynhelid marchnad wythnosol yno hefyd.

Taith Ceidio
Mae’r llwybr cyhoeddus i’r gogledd-orllewin o Lannerch-y-medd yn dilyn llwybr hynafol, a ddefnyddiwyd gan deithwyr, pobl leol a saint fel ei gilydd. Mae’r llwybr yn arwain heibio eglwys Sant Ceidio, eglwys ganoloesol ar ben tomen, sydd o bosib yn deillio o gyfnod cynharach. Wrth ddilyn y ffordd hon, mae’n bosib y bydd cerddwyr yn pasio fferm o’r enw Gwredog (‘man ynysig’); dengys hen fapiau safle mynachlog posib gerllaw yma. Trwy fynd heibio eglwys y Santes Fair sydd heb do arni, bydd cerddwyr yn pasio ffynnon ddˆwr Rhodogeidio. Mae cofnodion am felin ar y safle hwn mor bell yn ôl ag 1352.

Hen Eglwys Gwredog
Ar hyd y llwybr, gall ymwelwyr ddod ar draws eglwys Santes Fair, Rhodogeidio. Yn wreiddiol, efallai bod yr eglwys hon wedi bod yn gapel preifat i deulu cyfoethog a oedd yn byw yn Gwredog yn yr 16eg ganrif. Mae’r eglwys ei hun yn eithaf hen, gyda gwaelod y waliau yn dyddio o’r canoloesoedd. Un o’r nodweddion mwyaf diddorol yw ffenestr o’r bymthegfed ganrif, gyda charreg fedd ganoloesol wedi ei hailddefnyddio’n ddiweddarach fel lintel uwchben. Mae’n debyg bod y garreg fedd ei hun, croes gyda phlethiad gwinwydd, yn dyddio o’r 12fed ganrif.